Gwe-fan Ha Kome

y band o Sir Benfro


Llunie...

Dyma hen lun o'r band a gymerwyd yn ystod ein gig gyntaf!  Rhagor o luniau ar y ffordd!

"Cerrig Waldo"

Owain yn canu, Steff ar y piano, Guto a Dafydd yn y cefn yn whare gitar fas a dryms.  Siwan a Mair yn joio byw gyda pheint bach slei ar seddi y tu allan i weledigaeth holl-bwerus y camera.

How Come Ha Kome?

Mae Ha Kome yn enw ar bentref gwledig anghysbell ger Teyateyeng ym mhrenhiniaeth Lesotho, sydd yn neheubarth Affrica.  Bu Steffan, Owain a Siwan o'r band yno yn yr Haf yn gwneud gwaith gwirfoddol gydag Urdd Gobaith Cymru a Dolen Cymru Lesotho - prosiect Lle Chwech Gwell!  Mae gan Ha Kome ogofau niferus wedi'u naddu i mewn i graig clogwyn.  Triga peth o boblogaeth y pentref ynddynt hyd heddiw... serch hynny, maent wedi rhoi heibio'r hen arfer o fwyta cnawd dyn.   Daeth diwedd ar y duedd canibalaidd yma ymysg brodorion Ha Kome ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.  Diolch byth!

Owain, Steffan a Siwan yn Lesotho.

(Diolch am y pics Eirith!)

 

 Pentref Ha Kome.  

Make a free website at Freewebs.com