Gwe-fan Ha Kome

y band o Sir Benfro


Croeso

"band ifanc, llewyrchus sydd a dyfodol disglair o'i flaen."

Papur Bro 'Clebran'

ha_kome@yahoo.co.uk

Wel helo helo!  Croeso i wefan Ha Kome.  Os y'ch chi isie clywed mwy yna mynnwch gopi o'n CD newydd ni 'Croeso i'r Byd' oddi ar www.sebon.co.uk.  Mae'n fargen am ?4.99!

Mae gan Ha Kome bellach dudalen myspace lle mae'n EP wedi'i lwytho ar gyfer eich clustiau sanctaidd.  Dacw'r cyfeiriad - www.myspace.com/hakome.

Cliciwch ar y dudalen Caneuon i gael clywed y gan 'Colli'r Tren'!

Don't speak Welsh?  A brief introduction to Ha Kome is provided under the sub-heading 'English'.  Coming soon - a Spanish introduction to Ha Kome - muy bien!

EP cyntaf Ha Kome, 'Croeso i'r Byd' allan nawr!

Cliciwch fan hyn i brynu copi! - http://www.sebon.co.uk

Croeso i we-fan Ha Kome.

Cysylltwch a'r band drwy yrru e-bost at ha_kome@yahoo.co.uk

Contact the band by sending an e-mail to ha_kome@yahoo.co.uk

Pwy yw Ha Kome?

Band ifanc o Sir Benfro yw Ha Kome.  Dechreuwyd y band rhyw flwyddyn a hanner yn ol ar gyfer cystadlu ym Mrwydr y Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru ar gais y canwr gwerin Tecwyn Ifan.  Grwp o ffrindie o Ysgol y Preseli ffurfiodd Brechdan Gaws jyst er mwyn elwa o'r profiad o chwarae gig byw.  Cawsom ein syfrdanu pan gyhoeddodd y beirniaid 'Mattoidz' i ni ddod yn ail yn y gystadleuaeth ac y bydden yn symud ymlaen i'r ail rownd.  Juicy!!!

Yna, bu i Steffan, ein prif-leisydd, ennill gwobr mawr gyda'r Urdd a bu'n rhaid iddo yntau deithio i Fangor ar noson yr ail rownd.  Yn anffodus, bu'n raid i Frechdan Gaws dynnu allan o'r gystadleuaeth.  Ond - na phoener!  Atgyfododd y band gyda rhagor o hyder ac enw newydd.  Ymunodd Guto a Dafydd (ein basydd a'n drymiwr) gan i'r band deimlo ein bod am gyfoethogi'n sain drwy ychwanegu rhagor o offerynnau.  Cawsom sawl gig dros gyfnod o flwyddyn ac ry'm wedi mwynhau pob munud!

Bellach, mae Ha Kome (gynt Brechdan Gaws) wedi chwarae gyda Maharishi, y Mattoidz, Java, Rasputin, Eryr a Garej Dolwen, wedi cyrraedd rownd derfynol Brwydr Bandiau Mentrau Iaith Cymru ac C2 Radio Cymru ac hefyd wedi recordio EP ar label Rasp.  Rydym wedi'n canmol gan bundits bro gydag erthyglau'n ymddangos ym mhapur newydd 'Clebran', 'Y Cardi Bach' ac yng nghylchgrawn Sin Roc Gymraeg 'Ffwdanu'.  Ym mis Mawrth dywedodd Clebran fod Ha Kome "yn fand ifanc llewyrchus a chwbwl broffesiynol sydd a dyfodol disglair o'i blaen."

Dewch i'n Gweld a'n Clywed!

Gwasgwch ar y linc i'r dudalen gigs i weld a fyddwn yn chwarae yn eich ardal chi cyn hir!

Shwd gerddoriaeth? - wel, weden i 'i fod e'n gerddoriaeth hwyliog, ysgafn sy'n rhyw gymysgwch o arddulliau roc a rol, gwerin a jazz.  R'ym ni fel band yn hoff o'i alw yn piano-roc-ysgafn gan fod y piano (neu'r allweddellau efalle) yn whare rhan bwysig yn sain y band.  Byddai'r rhan fwyaf o'n caneuon yn cael eu galw'n rock/pop siwr o fod.  'Dyn ni ddim yn trio bod yn unrhywbeth 'dyn ni ddim (o! - y clich?) - h.y. ni'n joio be' ni'n neud ac yn whare a gobeithio gwnewch chi hefyd.    Dewch i hakomio bobl!

Y Cyfrifydd Holl Alluog

 

 

www... neis!

P?l Pleidleisio'r Mis

Make a free website at Freewebs.com