Carreg Las : Border Morris

Welsh Border Morris Dancers : Based in Abercych, West Wales, UK

HANES . . .

Dawnswyr Morys Ffîn Cymru ydyn ni ac yn ôl y traddodiad mae ein gwynebau wedi eu peintio a gwelwch ein siacedu rhacs a’n ffyn. Defnyddiwyd y dull yma ‘slawer dydd i osgoi cael eu hadnabod gan glerigwyr a bonheddwyr oherwydd fod y perfformwyr yn casglu arian mewn amserau o dlodi.

Mae tystiolaeth o’r ffurf fiwiog yma o ddawnsio yn mynd yn ôl gannoedd o flynyddoedd yng Nghymru a Lloegr er fod y sbordun wedi diflannu yn niwloedd amser.

Ffurfiwyd ein tîm ni yn gymharol ddiweddar ym 1992. Defnyddir amrywiaeth o gerddoriaeth gwerin Gymraeg, Saesneg a morys.

I ddechrau, fe aeth y grŵp o dan yr enw ‘ Morys ar y Clwt ’, ond yn 1997 penderfynon ni newid yr enw i ‘ Carreg Las ’.

 

Cyfieithir Carreg Las o ‘ Bluestone ’ sef math o garreg sy’n unigryw i fynyddoedd y Preseli, a defnyddiwyd y cerrig yma i ffurfio Côr y Cewri.

Rydym yn perfformio mewn tafarndai ac mewn digwyddiadau lleol drwy’r flwyddyn. Ymddangoswn hefyd mewn gwyliau gwerin a morys drwy Gymru, Lloegr ac yn unrhywle arall sydd am ein gwahodd.

Defnyddiwn yr arian a godwn i gynnal ein grwp a throsglwyddwn y gweddill i wahanol achosion da. Penderfynnir hyn yn ein Cyfarfod Blywyddol.

Rydym yn ymarfer bob nos Fercher yn Neuadd Bentref Abercych ger Aberteifi, Gorllewin Cymru  (grid ref. SN249402).

Rydym bob amser yn falch i groesawu aelodau newydd, boed ddawnswyr neu gerddorion, menywod neu dynion, dechreuwyr neu beidio!

Dewch i’n cyfarfod yn un o’n sesiynnau ymarfer neu ymunwch â ni yn y Nags Head, Abercych.